Y Safle

Sonnir yn benodol am Drawsfynydd yn ‘Cymru’r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol 2040’ gan Lywodraeth Cymru fel safle niwclear bach posib – gyda’r seilwaith a’r sgiliau lleol angenrheidiol eisoes ar gael. Mae’r Cynllun yn nodi bod gan ddatblygiadau niwclear newydd botensial i fod yn gatalydd i adfywio rhanbarthol a chreu swyddi da.

Mae Trawsfynydd yn lle delfrydol i fod y safle cyntaf ar gyfer technoleg niwclear ar raddfa lai yn y DU – mae’n gyn-safle niwclear, y tir yn dir cyhoeddus a gydag ystod o asedau cydnabyddedig fel dŵr oeri, is-orsaf National Grid gyfagos, gweithlu lleol medrus ac arolygon annibynnol yn cadarnhau bod y safle’n addas ar gyfer prosiect niwclear newydd.

Ein perthynas â’r NDA

Yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) yw perchennog y safle, sy’n cynnwys yr ardal niwclear drwyddedig lle y mae’r orsaf Magnox bresennol wedi’i lleoli. Mae ein perthynas â’r NDA yn hanfodol os yw ein gweledigaeth o sefydlu gwaith niwclear newydd yn Nhrawsfynydd i gael ei gwireddu.

Ym mis Hydref 2022, llofnodwyd Memorandwm Dealltwriaeth (MoU) rhwng yr NDA a Chwmni Egino. Drwy’r MoU hwn, gall yr NDA rannu gwybodaeth ac arbenigedd yn ymwneud â nodweddion y tir yn Nhrawsfynydd er mwyn cysoni gweithgareddau a chynlluniau datgomisiynu’r safle â’r prosiect niwclear newydd a chefnogi Cwmni Egino i ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu cynlluniau economaidd-gymdeithasol.

Mae safle Trawsfynydd wedi’i leoli ym mherfeddwlad Parc Cenedlaethol Eryri gyda’r lle agosaf, pentref Trawsfynydd ei hun, ychydig i’r de o’r safle.

Rhoddir mynediad i’r safle o’r A470 i’r dwyrain, sef y cyswllt strategol rhwng gogledd a de Cymru. Mae trefi eraill o bwys yn cynnwys Blaenau Ffestiniog sydd tua 15km i’r gogledd, a Dolgellau sydd tua 21km i ffwrdd. Mae Llandudno tua 63km i ffwrdd a Chaerdydd tua 220km i’r de.