Diweddarwyd ddiwethaf: Gorffennaf 2023

Cyrchu a defnyddio’r wefan

Mae’r telerau ac amodau hyn (y “Telerau”) yn llywodraethu’r defnydd o www.cwmniegino.wales (“ Gwefan“). Trwy ddefnyddio’r Wefan hon, rydych yn nodi eich bod wedi darllen a deall y Telerau hyn ac yn cytuno i gadw atynt bob amser. Daw hyn i rym o’r dyddiad y byddwch yn defnyddio’r Wefan gyntaf. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio’r Wefan hon.

Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n cyrchu ein Gwefan trwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o’r Telerau a lle bo’n berthnasol, unrhyw delerau perthnasol eraill, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

Rhaid i chi beidio â defnyddio’r Wefan at unrhyw ddiben anghyfreithlon nac at unrhyw ddiben sydd, yn ein barn resymol ni, yn niweidio ein henw da neu enw da unrhyw un o’n Grŵp, ein cwsmeriaid, ein gweithwyr, ein cyflenwyr neu ddefnyddwyr eraill.

Gwybodaeth amdanom ni

Cwmni Egino Cyfyngedig sy’n berchen ar y Wefan hon ac yn ei gweithredu. Rhif y cwmni yw 13475029 ac mae’r swyddfa gofrestredig yn Llywodraeth Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd, Cymru, LL55 1TH (‘ni’, ‘ein ni , ein‘). Mae’r Telerau hyn yn gwbl ar wahân i unrhyw gontract arall sydd gennych gyda ni ac maent yn ymwneud â chi’n defnyddio’r Wefan hon yn unig.

Telerau eraill a all fod yn berthnasol i chi

Mae’r Telerau Defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i’ch defnydd o’n Gwefan:

Newidiadau i’r telerau a’n gwefan

Gallwn ddiwygio’r Telerau hyn a’r Wefan o bryd i’w gilydd heb rybudd ar unrhyw adeg. Byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i nodi ar frig y dudalen pa bryd y cafodd y Telerau hyn eu diwygio ddiwethaf. Bob tro y byddwch yn dymuno defnyddio’r Wefan hon, edrychwch ar y Telerau hyn i sicrhau eich bod yn deall y Telerau sy’n berthnasol ar y pryd.

Atal neu dynnu ein gwefan yn ôl

Mae ein Gwefan ar gael yn rhad ac am ddim. Nid ydym yn gwarantu y bydd ein Gwefan nac unrhyw gynnwys arni bob amser ar gael nac yn barhaus. Efallai y byddwn yn atal ein Gwefan gyfan neu unrhyw ran o’n Gwefan dros dro, neu’n ei thynnu’n ôl neu’n cyfyngu ar ei hargaeledd am resymau busnes a gweithredol.

Ein heiddo deallusol

Ni yw perchennog neu drwyddedai’r holl gynnwys a deunydd a gyhoeddir ac sydd ar gael ar ein Gwefan. Cedwir pob hawl o’r fath.

Rhaid i chi beidio ag addasu cynnwys unrhyw rai o’r deunyddiau yr ydych wedi’u hargraffu neu eu llwytho i lawr mewn unrhyw ffordd, ac ni chewch ddefnyddio unrhyw ddarluniau, graffeg nac unrhyw eitem arall ar wahân i’r testun sy’n cyd-fynd â nhw.

Rhaid cydnabod ein statws fel perchnogion neu ddeiliaid trwydded y cynnwys ar ein Gwefan bob amser.

Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o’r cynnwys ar ein Gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.

Gallwch argraffu un copi, a gallwch lawrlwytho detholiadau, o unrhyw dudalennau o’r Wefan at eich defnydd personol a gallwch dynnu sylw eraill yn eich sefydliad at y cynnwys a bostiwyd ar ein Gwefan.

Os byddwch yn argraffu, copïo, lawrlwytho, rhannu neu ail-bostio unrhyw ran o’r Wefan hon gan dorri’r Telerau hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio’r Wefan yn dod i ben a rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni yn unig, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau sydd gennych. gwneud.

Gwefannau trydydd parti

Gall cynnwys trydydd parti gynnwys dolenni i wefannau eraill. Lle mae’r Wefan yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill, nid ydym yn gyfrifol nac yn atebol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau a’r adnoddau hynny gan nad ydym yn monitro unrhyw gynnwys trydydd parti. Nid ydym o reidrwydd yn cefnogi’r safbwyntiau a fynegir ynddynt.

Mae unrhyw ddolenni a ddarperir ar y Wefan hon er hwylustod i chi yn unig. Eich cyfrifoldeb chi yw darllen telerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd unrhyw wefannau trydydd parti cyn defnyddio’r gwefannau hynny.

Ein nod yw disodli dolenni sydd wedi torri i wefannau eraill ond ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser gan nad oes gennym reolaeth dros argaeledd gwefannau eraill.

Atebolrwydd

Ein hatebolrwydd i chi:

  • Ni fydd dim yn y Telerau hyn yn eithrio unrhyw atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod, camliwio twyllodrus, neu unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’i gyfyngu o dan gyfraith berthnasol.
  • Mae’r wybodaeth ar y Wefan yn gyffredinol ac nid yw’n berthnasol i’ch gofynion neu’ch amgylchiadau penodol chi. Mae’r wybodaeth a’r cynnwys ar y Wefan yn cael eu darparu heb unrhyw sicrwydd, amodau na gwarantau o ran ei chywirdeb, ei chyflawnder, ei diogelwch, ei pherthnasedd na’i phriodoldeb ar gyfer eich achos.
  • Ni fydd gennym unrhyw atebolrwydd i chi yn deillio o:
    • eich defnydd neu eich anallu i ddefnyddio’r Wefan neu unrhyw wefannau sy’n cynnwys dolenni ati neu oddi arni
    • unrhyw golledion canlyniadol uniongyrchol neu anuniongyrchol
    • unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan gamgymeriadau sifil (‘camwedd’, gan gynnwys esgeulustod), torri contract neu fel arall
    • unrhyw ddibyniaeth a roddwch ar unrhyw wybodaeth/cynnwys sydd ar gael ar y Wefan.

Mae hyn yn berthnasol os oedd y golled neu’r difrod yn rhagweladwy, wedi codi yn ystod pethau arferol neu os ydych wedi ein hysbysu y gallai ddigwydd. Mae hyn yn cynnwys, heb gyfyngiad, eich colled o incwm neu refeniw, cyflog, buddion neu daliadau eraill, busnes, elw neu gontractau, cyfle, ewyllys da neu enw da, eiddo diriaethol, eiddo anniriaethol gan gynnwys colled, llygredd neu ddifrod i ddata neu unrhyw system gyfrifiadurol, gwastraffu rheolaeth neu amser swyddfa.

  • Ni fyddwn yn gyfrifol i chi am unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiad y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.

Eich atebolrwydd i ni:

  • Os nad ydych yn cydymffurfio â’r Telerau hyn, a’n bod yn wynebu unrhyw gostau, colled, hawliadau, treuliau ac atebolrwyddau eraill sy’n deillio ohonoch chi’n peidio â chydymffurfio â’r Telerau, rydych yn cytuno i’n had-dalu am gostau, colled, hawliadau, treuliau ac atebolrwyddau eraill o’r fath. Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw rwymedïau penodol eraill sydd gennym yn y Telerau hyn neu o dan y gyfraith yn gyffredinol, fel ein hawl i’ch atal rhag defnyddio’r Wefan.

Dim cloddio data na thestun, nac echdynnu data o’r we (‘echdynnu’)

Ni fyddwch yn cynnal, yn hwyluso, yn awdurdodi nac yn caniatáu unrhyw Echdynnu mewn perthynas â’n Gwefan nac, os yw’n berthnasol, unrhyw wasanaethau a ddarperir drwy’r Wefan hon neu mewn perthynas â hi. Mae hyn yn cynnwys defnyddio, caniatáu, awdurdodi neu geisio defnyddio unrhyw:

  • ddyfais, rhaglen, offeryn, algorithm, cod, proses neu fethodoleg awtomataidd (yn ddigyfyngiad, robot, bot, corryn, echdynnwr) i gael mynediad at, cael, copïo, monitro neu ailgyhoeddi unrhyw ran o’r Wefan neu unrhyw ddata, cynnwys, gwybodaeth neu wasanaethau sydd ar gael drwy’r Wefan.
  • techneg ddadansoddi awtomataidd wedi’i hanelu at ddadansoddi testun a data ar ffurf ddigidol i gynhyrchu gwybodaeth sy’n cynnwys, yn ddigyfyngiad, batrymau, tueddiadau a chydberthyniadau.

Caiff hyn ei drin fel mater penodol o gadw ein hawliau yn y cyswllt hwn yn ddigyfyngiad at ddibenion Erthygl 4(3) o’r Gyfarwyddeb Hawlfraint Ddigidol ((EU 2019/790)). Ni fydd y cymal hwn yn gymwys i’r graddau, ond dim ond i’r graddau hynny nad ydym yn gallu gwahardd na chyfyngu ar Echdynnu’n gyfreithlon.

Feirws, hacio a throseddau eraill

Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan feirws, hacio, na thechnoleg niweidiol arall a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, nac am unrhyw golled neu ddifrod i unrhyw ddeunydd perchnogol neu ddeunydd arall oherwydd eich bod yn defnyddio’r Wefan neu wrth i chi lwytho unrhyw ddata i lawr o’n Gwefan.

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio’r Wefan drwy gyflwyno feirysau, cnafon, neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i’r Wefan, i’r gweinydd lle mae’r Wefan yn cael ei storio nac i unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sydd wedi cysylltu â’r Wefan, nac fel arall beryglu diogelwch neu uniondeb ein Gwefan na chyfrifiaduron unrhyw ymwelwyr. Mae torri’r ddarpariaeth hon yn drosedd. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw drosedd i awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu pwy ydych chi iddynt.

Gwybodaeth ar y wefan hon

Darperir y cynnwys ar y Wefan hon er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein Gwefan, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau, gwarantau na sicrwydd, boed yn ddatganedig neu ymhlyg, bod y cynnwys ar ein Gwefan yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol.

Rheolau ynghylch dolenni i’n gwefan

Dim ond ar yr amod nad yw eich dolenni yn niweidio ein henw da nac yn manteisio arno y cewch chi roi dolenni i’n Gwefan.

Wrth ddarparu dolen i’n Gwefan, rhaid i chi beidio â chynnwys dolen:

  • yn y fath fodd i awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan lle nad oes unrhyw beth o’r fath yn bodoli;
  • oni bai nad yw’r wefan lle’r ydych yn darparu’r ddolen arni yn cydymffurfio â’n safonau fel y nodir yn y Telerau hyn.

Ni ddylech godi tâl ar ddefnyddwyr eich gwefan am glicio ar unrhyw dudalen ar y Wefan. Os ydych chi’n dymuno cynnwys dolen neu ddefnyddio unrhyw gynnwys ar ein Gwefan ar wahân i’r hyn sydd wedi’i nodi uchod, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at gwybodaeth@cwmniegino.cymru . Rydym yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd i gynnwys dolen yn ôl heb rybudd ymlaen llaw.

Gwneud cais am swydd drwy’r wefan hon neu ymholi

Rhaid i’r wybodaeth a roddwch yn eich cyflwyniad fod yn wir, yn gyflawn ac yn gywir.

Os bydd datganiad wedi’i gynnwys yn y cais am swydd y byddwch yn cytuno iddo wrth gyflwyno cais, bydd datganiad o’r fath yn ddilys ac yn rhwymol. Os byddwch yn nodi, ar ôl cyflwyno cais am swydd, eich bod wedi gwneud camgymeriad, chi fydd yn llwyr gyfrifol am gysylltu â’r hysbysebwr perthnasol ar y Wefan i gywiro unrhyw gamgymeriad(au).

Rhaid i chi beidio â gweithredu mewn ffordd:

  • sy’n annog trais, casineb hiliol neu grefyddol neu sy’n anwir, yn gamarweiniol, yn ddifenwol, yn wahaniaethol, yn fygythiol, yn dramgwyddus, yn sarhaus, yn debygol o achosi pryder neu ofid i rywun, yn ffiaidd, yn bornograffig, yn torri cyfrinachedd, yn torri preifatrwydd, yn anghyfreithlon, yn aflonyddu, yn niweidiol, yn anllad, yn aflednais neu’n annerbyniol fel arall;
  • sy’n annog neu’n dysgu ymddygiad sy’n drosedd, sy’n arwain at atebolrwydd sifil, neu sy’n anghyfreithlon fel arall;
  • sy’n cynnwys iaith dramgwyddus neu amhriodol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, regfeydd neu iaith ddifrïol o unrhyw grŵp, fel sylwadau hiliol, rhywiaethol neu homoffobig; ac
  • sy’n torri hawliau eiddo deallusol neu ddeunydd sy’n dechnegol niweidiol (yn ddigyfyngiad, feirysau cyfrifiadurol, bomiau rhesymeg, Cnafon, cynrhon, cydrannau niweidiol, data llwgr, data maleisus neu ddata niweidiol).

Cyffredinol

Os canfyddir bod unrhyw ran o’r Telerau hyn yn annilys neu’n anorfodadwy o dan y gyfraith berthnasol, bydd rhan o’r fath yn aneffeithiol i’r graddau bod rhan o’r fath yn annilys neu’n anorfodadwy yn unig, heb effeithio ar y rhannau sy’n weddill o’r Telerau hyn mewn unrhyw ffordd.

Efallai y byddwn yn trosglwyddo ein hawliau a’n rhwymedigaethau o dan y Telerau hyn i sefydliad arall. Dim ond os byddwn yn cytuno’n ysgrifenedig y cewch drosglwyddo eich hawliau neu’ch rhwymedigaethau o dan y Telerau hyn i berson arall.

Mae’r Telerau hyn, eu pwnc a’u ffurf yn cael eu llywodraethu gan Gyfraith Lloegr. Rydych chi a ninnau’n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth lwyr mewn perthynas ag unrhyw anghydfod a allai godi mewn perthynas â’r Telerau hyn, eu pwnc neu eu ffurf.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y Telerau hyn, cysylltwch â ni yn:

Cwmni Egino Cyf
Llywodraeth Cymru
Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH

Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy anfon e-bost at gwybodaeth@cwmniegino.wales

At ddibenion y Termau hyn bydd ‘ Grŵp‘ yn golygu mewn perthynas â chwmni, y cwmni hwnnw, unrhyw is-gwmni neu gwmni daliannol o bryd i’w gilydd i’r cwmni hwnnw, ac unrhyw is-gwmni o bryd i’w gilydd sy’n gwmni daliannol i’r cwmni hwnnw. Mae pob cwmni mewn Grŵp yn aelod o’r Grŵp. Mae cyfeiriad at ‘gwmni daliannol’ neu ‘ is-gwmni’ yn golygu cwmni daliannol neu is-gwmni (yn ôl y digwydd) fel y’i diffinnir yn adran 1159 o CA 2006.