Sefydlwyd Cwmni Egino gan Lywodraeth Cymru yn 2021 i ddatblygu cyfleoedd twf economaidd-gymdeithasol o ddatblygiadau niwclear newydd yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys archwilio opsiynau datblygu posibl i adeiladu ar yr etifeddiaeth niwclear yn Nhrawsfynydd, yn ogystal â ffocws ehangach ar hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer niwclear yng Nghymru, ac i Gymru yn y sector niwclear.
Rydym wedi ymrwymo i arddangos y potensial i niwclear newydd ddarparu manteision pendant i gymunedau Cymru. Mae ein dull yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer buddsoddiad niwclear yn y rhanbarth drwy hwyluso cydweithio traws-sector, ymgysylltu a fframwaith gwerth cymdeithasol sy’n seiliedig ar le.
Mae Cwmni Egino yn barod i fod yn chwaraewr allweddol wrth gyflwyno ynni niwclear newydd yng Nghymru, gan weithio gyda’r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i sicrhau’r effaith gadarnhaol fwyaf posibl i’n rhanbarth.
Prif bwrpas Cwmni Egino yw gwneud Gogledd Cymru yn lle deniadol i fyw a gweithio ynddo, lle gall cymunedau ffynnu, a lle mae cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy i bobl, nawr ac yn y dyfodol. Dyma’r hyn a elwir yn gyffredin yn ‘greu gwerth cymdeithasol’ – ac i ni, mae’n synnwyr cyffredin.
Cliciwch yma am ein Llawlyfr Gwerth Cymdeithasol.
}
Y gair Cymraeg am egin neu flagur yn tyfu yw ‘egino’. Mae hyn yn cynrychioli rôl Cwmni Egino wrth gynyddu’r cyfleoedd o ynni niwclear newydd a pharatoi’r sylfaen ar gyfer cyflawni llwyddiannus. Mae’n rhaid gwneud llawer o waith cyn y gall unrhyw ddatblygiad gweladwy ddigwydd a chyn y gellir gwireddu manteision yn llawn; yn union fel mae angen meithrin had a blannwyd yn y ddaear a chreu’r amodau cywir cyn i egin gwyrdd ymddangos.