Cartref

Daeth Cwmni Egino i ben ar 31 Mawrth 2026, yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru na fyddai cyllid yn parhau y tu hwnt i hynny. Cliciwch yma i weld y Datganiad Ysgrifenedig. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am waith y cwmni, anfonwch e-bost at cwmni.egino@llyw.cymru 

Cefndir Cwmni Egino

Sefydlwyd Cwmni Egino gan Lywodraeth Cymru yn 2021 i feithrin cyfleoedd ar gyfer twf economaidd-gymdeithasol yn deillio o ddatblygiad niwclear newydd yng Ngogledd Cymru. Bu’r cwmni yn canolbwyntio ar ystyried opsiynau datblygu posibl yn seiliedig ar etifeddiaeth niwclear Trawsfynydd, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd ehangach o niwclear newydd yng Nghymru, ac i Gymru yn y sector niwclear.

Dechreuodd taith Cwmni Egino trwy werthuso’r potensial ar gyfer prosiect niwclear ar raddfa fach ar safle Trawsfynydd. Datblygwyd dealltwriaeth fanwl o’r safle ac fe gyflwynwyd cynnig busnes i Lywodraethau Cymru a’r DU yn amlinellu’r achos ar gyfer datblygu niwclear newydd yn yr ardal. Sicrhaodd y cwmni fod Trawsfynydd yn opsiwn credadwy ar gyfer datblygiad yn y dyfodol, gan gynhyrchu Pecyn Gwybodaeth Safle a chefnogi cwmnïau preifat i ddatblygu cynlluniau ar gyfer adweithyddion modiwlaidd bach.

Yn ogystal â hyn, bu Cwmni Egino’n arwain ar raglen ehangach o weithgarwch i gryfhau’r achos dros ddenu buddsoddiad i’r rhanbarth – yn cynnwys cydlynu achos busnes ar gyfer Canolfan Arloesedd, Busnes a Sgiliau yn Nhrawsfynydd, cefnogi cysylltiadau rhwng y sector niwclear a sectorau ynni glân a thechnolegau eraill, a chyfrannu at strategaethau rhanbarthol gan gynnwys Parth Twf AI Gogledd Cymru. Hefyd, gweithiodd gyda rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth i gydlynu ymdrechion, cyhoeddi prospectws niwclear, ac asesu parodrwydd y gadwyn gyflenwi leol i fanteisio ar gyfleoedd yn y sector niwclear.

Gyda ffocws cryf ar gydweithio rhanbarthol, helpodd Cwmni Egino i greu partneriaethau, meithrin gwybodaeth ac ymwybyddiaeth, ac annog uchelgais gyffredin ymhlith rhanddeiliaid o fewn y diwydiant, llywodraeth a chymunedau.  Seiliwyd gwaith y cwmni ar egwyddorion gwerth cymdeithasol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), gan anelu at sicrhau bod prosiectau niwclear a phrosiectau mawr eraill yn creu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol parhaol – yn awr ac yn y dyfodol.

Er i Gwmni Egino ddod i ben ym mis Mawrth 2026, mae wedi gadael sylfeini cryf ar gyfer datblygiad yn y dyfodol, gyda Gogledd Cymru mewn sefyllfa gref i chwarae rhan gynyddol yn rhaglen niwclear ac ynni glân y DU.