Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Cwmni Egino Cyf wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth bersonol, a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol sydd gennym.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni ac rydyn ni’n ei chynhyrchu wrth ddefnyddio ein gwefan, gwneud ymholiad neu ofyn am wybodaeth neu gefnogaeth.

Mae Cwmni Egino yn rheoli gwybodaeth bersonol, ac mae’n ddarostyngedig i Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA) a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR). Ein cyfeiriad yw Llywodraeth Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Cymru. Ffôn: +44 (0)1766 506051 Ebost: gwybodaeth@cwmniegino.wales

Efallai y byddwn yn casglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth bersonol er mwyn hwyluso partneriaethau busnes gyda’ch sefydliad.

Pa wybodaeth sydd gennym

Mae’r categorïau o wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a’i chadw yn cynnwys:

  • Gwybodaeth gyswllt gorfforaethol (megis enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn);
  • Gwybodaeth am ohebiaeth (megis gohebiaeth e-bost a nodiadau cyfarfod);
  • Gwybodaeth yn ymwneud â thrafodion ariannol a chyllid corfforaethol (megis amcanbrisiau, archebion ac anfonebau sy’n cynnwys eich gwybodaeth bersonol).

Pam rydym yn cadw’ch gwybodaeth

Rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth er mwyn:

  • Ymateb i’ch ymholiad;
  • Sefydlu neu gyflawni contract, cytundeb neu bartneriaeth gyda’ch sefydliad;
  • Archwilio cyfleoedd busnes gyda’ch sefydliad yn y dyfodol;
  • I anfon deunydd cyfathrebu trwy e-bost atoch lle mae gennym reswm dilys i wneud hynny neu os ydych wedi cydsynio i dderbyn gwybodaeth;
  • Cydymffurfio â’r gyfraith o ran datgelu a rhannu data;
  • Cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch;
  • Atal a chanfod achosion o dorri’r gyfraith;
  • Cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cytundebol a chyfreithiol.

Y sail gyfreithlon dros ddefnyddio’r wybodaeth hon

O dan rheolau GDPR, gallwn brosesu gwybodaeth ar seiliau cyfreithiol penodol. Yn achos eich gwybodaeth, rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth o dan y seiliau canlynol:

Er mwyn cyflawni contract,

  • lle mae rheswm dilys i ni wneud hynny,
  • lle mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol, neu
  • lle’r ydych wedi cydsynio i’r prosesu.

Casglu gwybodaeth

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth a rowch i ni yn angenrheidiol er mwyn i ni fedru hwyluso partneriaethau busnes gyda’ch sefydliad a heb i wybodaeth o’r fath efallai na allwn ymrwymo i gynnal perthynas fusnes â chi neu barhau â hi. Ni fyddwn fyth yn gofyn i chi am fwy o ddata personol nag sy’n angenrheidiol i gyflawni’r dasg dan sylw.

Storio gwybodaeth a diogelwch

Rydym yn storio gwybodaeth yn ddiogel yn unol â’n Polisi Diogelu Data a’n gweithdrefnau cysylltiedig.

Gellir cael copi o’n Polisi Diogelu Data gan y Swyddog Diogelu Data (gweler y manylion cyswllt isod). Rydym yn cadw eich gwybodaeth am y cyfnodau canlynol:

  • Gwybodaeth gyswllt – hyd at chwe blynedd ar ôl ein cyswllt diwethaf â chi;
  • Gwybodaeth yn ymwneud â gohebiaeth – hyd at saith mlynedd ar ôl i’r ohebiaeth ddigwydd;
  • Gwybodaeth ariannol gorfforaethol – hyd at saith mlynedd ar ôl dyddiad cyhoeddi.

I bwy y gallwn ddatgelu eich gwybodaeth

Ni fyddwn yn datgelu nac yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw un oni bai fod hynny’n angenrheidiol ac yn unol â’r pwrpas y cafodd ei gasglu. Er enghraifft, lle mae angen i ni ddarparu eich gwybodaeth gyswllt i gontractwr trydydd parti er mwyn iddynt drefnu ymweliad safle. Efallai y byddwn hefyd yn datgelu eich gwybodaeth lle mae’n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Gofyn am fynediad i’ch data personol

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i’r canlynol:

  • Gofyn am fynediad i’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi (Subject Access Request);
  • Cael gwybod pwy yw’r rheolwr, y rhesymau dros brosesu eich data personol a gwybodaeth berthnasol arall sy’n angenrheidiol i sicrhau bod data personol yn cael ei brosesu’n deg ac yn dryloyw;
  • Gwrthwynebu prosesu data personol sy’n debygol o achosi, neu sy’n achosi, niwed neu ofid;
  • Atal prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol;
  • Gwrthwynebu penderfyniadau sy’n cael eu gwneud drwy ddulliau awtomataidd;
  • Mewn rhai amgylchiadau, mynnu bod data personol sy’n anghywir yn cael ei gywiro, ei atal, ei ddileu neu ei ddinistrio.

Cyswllt

I wneud cais am wybodaeth neu i drafod unrhyw beth yn ymwneud â’r hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data: gwybodaeth@cwmniegino.wales

Pryderon

Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o’ch data personol, gallwch gysylltu â ni’n ysgrifenedig i wneud cwyn:

Cwmni Egino Cyf
Llywodraeth Cymru
Doc Fictoria
Caernarfon
LL55 1TH

Neu drwy e-bost at gwybodaeth@cwmniegino.wales

Gallwch hefyd gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (‘ICO‘) os ydych yn anhapus â’r ffordd yr ydym wedi defnyddio eich data. Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth / Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://www.ico.org.uk