Mae Cwmni Egino wedi gosod ei huchelgais i Drawsfynydd ddod yn safle cynhyrchu niwclear cyntaf ar raddfa fach yn y DU, gyda ffocws cryf ar greu cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd.
Cafodd y cwmni a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ei sefydlu yn 2021 i greu swyddi cynaliadwy a hybu adfywio economaidd a chymdeithasol drwy hwyluso datblygiad ar safle’r hen orsaf bŵer niwclear.
Caeodd yr orsaf niwclear bresennol yn Nhrawsfynydd, a oedd ar ei hanterth oedd yn cyflogi dros 700 o bobl, ym 1993 ac mae datgomisiynu wedi bod yn mynd rhagddo ers 1995.
Nawr, mae Cwmni Egino yn cychwyn ar raglen uchelgeisiol i ddod â thechnoleg adweithydd modiwlaidd bach (SMR) i’r safle, gyda dyddiad targed ar gyfer adeiladu i ddechrau yn 2027.
Mae’r cwmni’n cydweithio â’r tirfeddiannwr, yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA), ar gynigion ar gyfer lleoli datblygiad niwclear newydd yn Nhrawsfynydd.
Mae Cwmni Egino hefyd wedi croesawu ffurfio Great British Nuclear (GBN), corff Llywodraeth y DU a sefydlwyd yn ddiweddar i ddod â phrosiectau newydd ymlaen, a dywed ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda GBN wrth i gynlluniau ar gyfer Trawsfynydd ddatblygu.
Eglurodd Prif Weithredwr Cwmni Egino, Alan Raymant: “Mae Trawsfynydd yn cynnig cyfle heb ei ail ar gyfer y defnydd cyflymaf o dechnoleg SMR yn y DU o ystyried nodweddion a threftadaeth y safle, a’r sgiliau a’r seilwaith presennol sydd ar gael.
“Trwy gysylltu’r her diogelwch ynni â’r her economaidd-gymdeithasol, credwn y gall datblygu Traws yn y dyfodol greu llawer o enillion.
“Yn ogystal â sicrhau buddion yn lleol, mae lle enfawr i hyrwyddo cadwyn gyflenwi, datblygu sgiliau a chyfleoedd busnes yn rhanbarth ehangach Gogledd Cymru a ledled y DU. Bydd y math hwn o ddatblygiad yn Nhrawsfynydd hefyd yn helpu i gwrdd ag anghenion ynni a thargedau Sero Net, ac yn cefnogi’r agenda lefelu i fyny.”
Roedd Strategaeth Diogelwch Ynni Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Ebrill yn datgan ymrwymiad i gyflymu ei rhaglen niwclear, gan gynnwys defnyddio SMRs.
Gyda dyluniad technoleg SMR yn dal i gael ei ddatblygu yn y DU, nid yw Cwmni Egino wedi penderfynu eto pa dechnoleg sydd fwyaf addas ar gyfer Trawsfynydd.
Ychwanegodd Alan: “Rydym yn bwriadu dechrau trafodaethau archwiliadol gyda phartneriaid technoleg posibl dros y misoedd nesaf wrth i ni barhau i weithio gydag eraill i ddatblygu ein cynigion manwl ar gyfer y safle.
“Rydym wedi gosod rhaglen uchelgeisiol yn seiliedig ar adeiladu yn dechrau mor gynnar â 2027. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod y gall manteision sylweddol ddeillio o adeiladu, yn ogystal â gweithredu. Gorau po gyntaf y gallwn sicrhau’r buddion hynny i gymunedau.
“Cyn hynny, mae’n amlwg bod llawer o waith i’w wneud, yn gyflym. Ein ffocws ar gyfer y misoedd nesaf fydd llunio cynnig busnes llawn i ddiffinio cwmpas y prosiect, sut y caiff ei ddarparu a’i ariannu, a sut y gallwn sicrhau effaith gadarnhaol ar gymunedau.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae yna lawer iawn o botensial yn safle Trawsfynydd. Fe wnaethom sefydlu Cwmni Egino fel y gellir gwireddu’r potensial hwn. Mae’r tîm bellach yn ei le ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda.
“Bydd datblygiad safle Trawsfynydd yn y dyfodol o fudd i’r gymuned leol a rhanbarth ehangach Gogledd Cymru, gan ddod â chyfleoedd swyddi a sgiliau.
“Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol a all ddod â buddion economaidd gwirioneddol i Ogledd Orllewin Cymru a thu hwnt.”
Mae Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, yn cefnogi’r datblygiad arfaethedig yn Nhrawsfynydd. Meddai: “Rwy’n croesawu cynlluniau Cwmni Egino i ddatblygu safle trwyddedig niwclear Trawsfynydd. Credaf y dylai Cymru chwarae rhan flaenllaw, uchelgeisiol yn natblygiad technolegau ynni carbon isel mewn byd rhyng-gysylltiedig lle bydd fforddiadwyedd a sicrwydd ynni yn dod yn fwyfwy pwysig.
“Rwy’n edrych ymlaen hefyd at y swyddi o safon a’r cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy i Feirionnydd a Gwynedd a fydd yn gysylltiedig â’r cynlluniau hyn. Mae fy etholaeth i ymhlith y rhai ar y cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae datblygiad ein heconomi yn y dyfodol yn galw am amrywiaeth o opsiynau swyddi i bobl ifanc, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi a sgiliau priodol.”