Astudiaeth newydd yn tynnu sylw at faint y cylfe niwclear i fusnesau yng Nghymru

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd gan Cwmni Egino yn amlygu’r cyfle sylweddol ar gyfer twf busnes yng Nghymru o ganlyniad i fuddsoddiad niwclear yn y dyfodol.  

 Mae’r ymchwil wedi canfod 345 o gwmnïau o Gymru, 114 ohonynt wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru, sydd ar hyn o bryd yn darparu contractau ar gyfer datgomisiynu a phrosiectau niwclear newydd. Mae gwerth y contractau hyn yn cyfateb i £160m mewn gwerthiannau i Gymru a £63m i ranbarth Gogledd Cymru. 

 Gallai hyn gynyddu i oddeutu £1bn o wariant y flwyddyn gyda’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru yn ystod y 10-15 mlynedd nesaf os caiff yr holl fuddsoddiad arfaethedig a phosibl mewn niwclear yn y DU ei wireddu. Amcangyfrifir y byddai tua £595m, dros 50% o wariant cenedlaethol Cymru, yn dod i Ogledd Cymru.  

 Yn seiliedig ar ddadansoddiad eang o gadwyn gyflenwi Cymru ar draws ystod o gategorïau sy’n ymwneud â gofynion y sector niwclear, mae’r astudiaeth yn amcangyfrif bod dros 10,900 o gwmnïau ledled Cymru a allai gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i gefnogi prosiectau niwclear presennol a rhai newydd mewn blynyddoedd i ddod. 

 Comisiynwyd ‘Astudiaeth Cymhwysedd Cadwyn Gyflenwi Niwclear: Cymru’ gan Gwmni Egino ac fe’i cwblhawyd gan Gardiner & Theobald, mewn cydweithrediad ag ymgynghorwyr o Gymru.  

 Nod yr ymchwil oedd darparu gwerthusiad manylach o raddfa’r cyfle posibl o ddatgomisiynu a phrosiectau niwclear newydd ar gyfer busnesau Cymru, a datblygu dealltwriaeth gyfoethocach o gapasiti, cymhwysedd ac awydd y gadwyn gyflenwi hysbys a photensial yng Nghymru i weithio yn y sector niwclear.  

 Mae Cwmni Egino yn gwmni a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda’r dasg o hwyluso buddion eang o niwclear i Gymru, gyda ffocws penodol ar adfywio economaidd-gymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Dywedodd Alan Raymant, Prif Weithredwr: 

 “Mae’n amlwg bod potensial i dyfu gweithgarwch o fewn cadwyn gyflenwi niwclear Cymru drwy’r cynnydd a ragwelir mewn gwariant ym maes datgomisiynu a niwclear newydd sy’n deillio o gyfleoedd rhaglenni ledled y DU a phrosiectau rhanbarthol penodol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, yn bennaf ar safleoedd Wylfa a Thrawsfynydd. 

 “Mae’n amlwg o’r astudiaeth fod cryfder cadwyn gyflenwi Cymru yn y sector busnesau bach a chanolig yn bennaf, yn enwedig yng Ngogledd Cymru lle mae cwmnïau llai mewn sefyllfa arbennig o dda i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau ar gyfer y sector niwclear.  

 “Mae cyfle ar gyfer twf organig, cynaliadwy trwy harneisio arbenigedd cwmnïau sydd eisoes yn weithredol yn y sector niwclear yn ogystal â denu newydd-ddyfodiaid nad ydynt efallai’n ‘niwclear’ ar hyn o bryd ond sydd â’r awydd a’r potensial i gyflenwi’r sector.”  

 Ychwanegodd Alan: “Byddwn yn rhannu canfyddiadau ein hastudiaeth yn eang fel y gallwn sbarduno trafodaethau gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff rhanbarthol a’r diwydiant, o amgylch meysydd o gymorth posibl i helpu busnesau i baratoi ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.  

 “Byddwn hefyd yn parhau i ddadlau dros ddod â buddsoddiad niwclear i Ogledd Cymru a hyrwyddo’r angen am eglurder ynghylch rhaglen niwclear y DU yn y dyfodol cyn gynted â phosibl.” 

 Mae Mark Blackwell, Rheolwr Gyfarwyddwr DU Construction o Ynys Môn, yn un o berchnogion busnes Gogledd Cymru sy’n gobeithio manteisio ar fuddsoddiad niwclear newydd yn y rhanbarth.  

 Dywedodd: “Fe wnaethon ni sicrhau contractau cynnar gyda Pŵer Niwclear Horizon i gefnogi gwaith galluogi ar y safle. Roedd hyn yn hwb mawr i’r cwmni gan ganiatáu inni dyfu a chyflogi mwy o staff.  

 “Er na ddaru Wylfa Newydd fynd yn ei flaen y tro diwethaf, rydym yn parhau i fod yn obeithiol y bydd pethau’n digwydd eto yn fuan. Byddai’n dda i ni ond hefyd i’r ynys, gan ddod â swyddi tymor hir yma. Fel llawer o gwmnïau lleol eraill, rydan ni’n barod i gamu i fyny i’r cyfle.” 

 Mae Tenet Consultants hefyd yn bwriadu tyfu eu busnes yng Ngogledd Cymru mewn ymateb i’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y sector niwclear. Dywedodd Huw Brassington, Pennaeth eu Swyddfa yng Nghymru: “Gyda llawer o brosiectau mawr cyffrous yn dod ymlaen – ac yn enwedig gyda’r potensial am fuddsoddiad niwclear – rydym yn hyderus bod gan Ogledd Cymru ddyfodol disglair a’u bod yn ymroddedig i gyfrannu at y dyfodol hwn mewn ffordd ystyrlon. Drwy gynnig prentisiaethau a swyddi cyflog uchel, ein nod yw denu peirianwyr a dylunwyr yn ôl i Gymru.  

 Ychwanegodd Huw: “Mae ein portffolio amrywiol ac aeddfed o waith cyfredol yn sector niwclear Prydain yn rhoi’r hyblygrwydd i ni ddechrau’r broses o adeiladu ein canolfan yng Ngogledd Cymru ar unwaith, heb ddibynnu ar brosiectau yn y rhanbarth. Mae hyn yn golygu, pan fydd prosiect yn glanio o’r diwedd y bydd gennym dîm o beirianwyr a phrentisiaid, a ddatblygwyd o’r ardal leol, yn barod i fynd.” 

Mae’r Astudiaeth Cymhwysedd Cadwyn Gyflenwi: Cymru’ a gyhoeddwyd gan Gwmni Egino ar gael yma.