Mae Prifysgol Bangor a Chwmni Egino, mewn partneriaeth â Great British Energy Nuclear (GBE-N), wedi cyhoeddi pwy a fydd yn derbyn cyllid o Gynllun Bwrsariaeth 2026. Cynllun yw hwn sy’n cefnogi ymchwil arloesol i berthynas gogledd Cymru ag ynni niwclear.
Mae cyfanswm o £10,000 yn cael ei gynnig gan Cwmni Egino a llwyddwyd i ddenu cynigion cystadleuol o ansawdd uchel gan gydweithwyr a myfyrwyr ar draws y brifysgol. Aeth panel ac arno gynrychiolwyr o Cwmni Egino, Prifysgol Bangor a GBE-N ati i gynnal proses ddethol drylwyr, a chafodd pedwar project eu dewis a fydd yn ymchwilio i berthynas gogledd Cymru ag ynni niwclear yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Y prosiectau llwyddiannus yw:
Nathan Abrams, Athro Ffilm a Dr Mari Wiliam, Darlithydd mewn Hanes Modern – Hunaniaethau atomig: Cof diwylliannol, naratifau cymunedol, a dyfodol niwclear gogledd Cymru
Archwilio sut mae cymunedau wedi deall, cynrychioli ac ymwneud ag ynni niwclear o ganol yr ugeinfed ganrif hyd heddiw, gyda ffocws penodol ar yr Wylfa a Thrawsfynydd, gan geisio mynd i’r afael â sut y caiff ynni niwclear ei ddychmygu yn y cof lleol, mewn cynhyrchiant diwylliannol ac ym mywyd bob dydd.
Dr Edward Jones a Dr Graeme Pearce, Uwch-ddarlithwyr mewn Economeg – Ym mhwy yr ydym yn ymddiried? Adnabod negeswyr credadwy ar gyfer deialog niwclear yng ngogledd Cymru
Archwilio ym mhwy y mae pobl yn ymddiried wrth siarad am ynni niwclear, gan helpu i lunio sgyrsiau cyhoeddus mwy agored ac ystyrlon am ddyfodol y rhanbarth. Bydd yn cynhyrchu mewnwelediadau ymarferol i gefnogi ymgysylltiad cyhoeddus mwy gwybodus, cynhwysol ac effeithiol ynghylch datblygiadau ynni yn y dyfodol.
Dr Heather He, Darlithydd mewn Gwyddor Data/Dadansoddeg – Grym aros yng Ngogledd Cymru: Sut mae cyfathrebu risg yn siapio llwybrau talent leol yn nherfynoldeb SMR Wylfa
Archwilio sut mae cyfathrebu ynghylch risg adweithyddion modiwlaidd bach arfaethedig yn Wylfa yn siapio canfyddiadau’r cyhoedd o risg ac ymddiriedaeth, ac, yn ei dro, sut mae’r rhain yn
dylanwadu ar barodrwydd pobl ifanc i ddilyn cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth leol yng Ngogledd Cymru.
Zola Hinds, myfyrwraig ddoethurol yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear- Mae pob llun yn adrodd stori: Delweddu sut mae ymgysylltu seiliedig ar straeon yn siapio canfyddiad niwclear yng Ngogledd Cymru
Gwneir yr astudiaeth hon ar y cyd ag M-SParc a bydd yn archwilio canfyddiadau gweledol disgyblion cynradd o ynni niwclear ac yn archwilio a yw darllen straeon o’r llyfr Island Energy yn gwella llythrennedd niwclear ac yn lleihau gorliwio delweddaeth risg. Bydd y canfyddiadau’n llywio strategaethau ymgysylltu cymunedol sy’n cefnogi datblygiad arfaethedig yr Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR) yn yr Wylfa.
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil: “Rydym yn ddiolchgar i Cwmni Egino am eu cefnogaeth, ac yn falch iawn o gael bod yn bartneriaid iddyn nhw a Great British Energy Nuclear i gefnogi ymchwil sy’n rhoi pobl, cymunedau a diwylliant gogledd Cymru yng nghanol sgyrsiau am ddyfodol niwclear. Mae’r projectau hyn yn dangos dyfnder talent a chreadigrwydd y gymuned o staff a myfyrwyr sydd gennym yma yn y brifysgol, ac yn dangos pa mor hanfodol yw mewnwelediad academaidd er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer y rhanbarth.”
Dywedodd Alan Raymant, Prif Weithredwr Cwmni Egino: “Rhan allweddol o genhadaeth y cwmni yw cefnogi sgyrsiau mwy gwybodus, mwy cynhwysol a llai rhanedig ynghylch projectau niwclear – gyda’r nod o helpu rhanddeiliaid a chymunedau lleol i ymgysylltu’n ystyrlon â phrojectau a allai effeithio arnynt. Fel rhan o’n cynhysgaeth, mae arnom eisiau sicrhau bod sgyrsiau ynghylch datblygiadau niwclear yn y rhanbarth yn parhau, ac wedi’u seilio ar ymchwil a thystiolaeth gadarn. Bydd y projectau llwyddiannus yn sicr o wneud cyfraniad pwysig at y sgyrsiau hynny.”
Cafodd Cwmni Egino ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2021 i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer twf economaidd-gymdeithasol yn sgil datblygiadau niwclear newydd yng ngogledd Cymru. Ar ôl gosod y sylfeini ar gyfer cyflawni projectau yng ngogledd Cymru yn y dyfodol, bydd Cwmni Egino yn dirwyn i ben ddiwedd Mawrth 2026.
Bydd y pedwar project ymchwil yn rhedeg dros y 12 mis nesaf, a bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu gyda phartneriaid cymunedol, rhanddeiliaid a sefydliadau rhanbarthol.