Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd yn parhau i ariannu Cwmni Egino o ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Wrth i ni baratoi i ddirwyn ein gweithrediadau i ben, rydym wedi manteisio ar y cyfle i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni ers sefydlu’r cwmni yn 2021.
Mae ein henw, ‘Egino’, yn adlewyrchu hanfod ein cenhadaeth: hau twf a hyrwyddo trawsnewidiad newydd. O’r cychwyn cyntaf, crëwyd Cwmni Egino i ysgogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd yng Ngogledd Cymru, gan helpu i adfywio cymunedau a ffurfiwyd gan dreftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol gref a gosod sylfeini ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus i’r rhanbarth.
Yn unol â’r diben creiddiol hwn, dechreuodd ein taith gyda nod clir: archwilio dichonoldeb dechnegol prosiect niwclear ar raddfa fach ar safle Trawsfynydd. Rydym wedi datblygu dealltwriaeth sylweddol o nodweddion unigryw’r safle ac wedi cyflwyno cynnig busnes i Lywodraethau Cymru a’r DU yn nodi manteision dod â datblygiad niwclear newydd i’r ardal.
Tra bod Great British Energy – Nuclear yn mynd ati i ddatblygu yn Wylfa, rydym wedi parhau’n ymrwymedig i warchod yr opsiwn ar gyfer niwclear newdd yn Nhrawsfynydd yn y dyfodol. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda datblygwr preifat sy’n dymuno dod â thechnoleg adweithyddion modwlar bach (SMR) i’r safle. Rydym hefyd wedi cynhyrchu Pecyn Gwybodaeth Safle cynhwysfawr i gefnogi unrhyw ddatblygwyr yn y dyfodol sydd â diddordeb mewn manteisio ar gyfleoedd niwclear newydd yn Nhrawsfynydd.
Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi helpu i ddatblygu ystod o gyfleoedd eraill yn Nhrawsfynydd sydd â’r potensial i greu manteision cymdeithasol ac economaidd yn y tymor byr a chanolig, tra’n cryfhau’r achos am fuddsoddiad sylweddol yn y tymor hir.
Gan weithio ar ran Cyngor Gwynedd, rydym ar hyn o bryd yn cydlynu achos busnes ar gyfer parc gwyddoniaeth newydd yn Nhrawsfynydd, gyda’r nod o’i gyflwyno i Fargen Twf Gogledd Cymru yn y Flwyddyn Newydd. Rydym hefyd wedi archwilio cyfleoedd gyda datblygwyr yn y sector AI i gysylltu technolegau uwch ag ynni glân, ac wedi cyfrannu at y cais Parth Twf AI Gogledd Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn. Gyda’i gilydd, mae’r cyfleoedd hyn yn ffurfio sail gref a rhyng-gysylltiedig ar gyfer twf yn y dyfodol ac yn cyfrannu at weledigaeth holistig ar gyfer Trawsfynydd.
Ynghyd â’n gwaith yn Nhrawsfynydd, rydym wedi chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo agenda niwclear ac isadeiledd ehangach y rhanbarth ac wedi dod â rhanddeiliaid ynghyd i ystyried sut y gellir cydweithio’n effeithiol i ymateb i gyfleoedd presennol ac yn y dyfodol. Fe wnaethom gyhoddi prosbectws i gryfhau’r achos dros fuddsoddi mewn niwclear newydd yn y rhanbarth, yn ogystal ag asesu parodrwydd cadwyn gyflenwi Cymru i gymryd rhan yn y twf a ddisgwylir yn y sector niwclear dros y blynyddoedd a’r degawdau nesaf. Rydym hefyd wedi datblygu dealltwriaeth o werth cymdeithasol – yn unol â Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol – i helpu i sicrhau bod prosiectau niwclear a phrosiectau eraill o bwys yn dod â manteision parhaol i bobl ledled Cymru.
Rydym yn arbennig o falch, nid yn unig o’r hyn rydym wedi’i gyflawni, ond hefyd sut rydym wedi mynd o amgylch ein gwaith, gan roi ffocws ganolog ar bobl a dulliau cydweithredol o gyflawni. Drwy bartneriaeth, rydym wedi cynnal gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth, addysgu a meithrin eiriolaeth i helpu cymunedau, diwydiant a llywodraeth lwyr ddeall potensial ysector niwclear i Ogledd Cymru. Mae’r ymdrechion hyn wedi meithrin cyd-weledigaeth o ranbarth lle gall pobl, lleoedd ac economïau lleol ffynnu drwy arloesedd niwclear a thechnolegau carbon isel eraill.
Yn union fel y mae egino yn dechrau gyda pharatoi’r tir yn ofalus, rydym wedi ymroi i osod sylfeini cadarn a pharhaol – meithrin gwybodaeth, partneriaethau ac ymddiriedaeth i baratoi Gogledd Cymru ar gyfer cyfnod newydd o dwf diwydiannol cynaliadwy. Rydym wedi sefydlu cydweithrediadau traws-sector wedi’u gwreiddio yn y rhanbardd, ac wedi cydweithio ag eraill y tu allan i’r rhanbarth, gan gynnwys Sizewell C, gyda’r nod o helpu i fwyafu manteition i Gymru.
Er bod pennod Cwmni Egino yn dod i ben ym mis Mawrth 2026, mae stori niwclear newydd a’r manteision posibl i Gymru ymhell o fod drosodd. Rydym wedi creu amodau ar gyfer prosiectau, partneriaethau a chyfleoedd i’w datblygu ymhellach gan eraill, gan sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau’n ganolog i ddyfodol niwclear ac ynni glân y DU.