Mae gan sefydlu SMR yn Nhrawsfynydd botensial i greu dros 400 o swyddi da’n lleol yn ystod y 60+ mlynedd y byddai’n weithredol, a miloedd o swyddi ychwanegol yn ystod y cyfnod adeiladu. Bydd hyn yn hybu twf economaidd lleol a rhanbarthol a helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau. Bydd hefyd yn creu cyfleoedd busnes a datblygu sgiliau niwclear ar draws y rhanbarth, drwy Gymru a thros weddill y DU. Rydym yn rhagweld y bydd Gogledd Cymru’n ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer arloesi a chynhyrchu ynni carbon isel, sy’n greiddiol i sector niwclear y DU. Rydym yn rhagweld y bydd Gogledd Cymru’n ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer arloesi a chynhyrchu ynni carbon isel, sy’n greiddiol i sector niwclear y DU.
Gall pŵer niwclear yn Nhrawsfynydd a rhaglen SMR ehangach chwarae rôl hanfodol mewn cynhyrchu ynni carbon isel ar stepan ein drws i sicrhau bod digon o drydan ar gael i bweru ein cartrefi a’n busnesau. Nod Cwmni Egino yw cael caniatâd i ddechrau’r gwaith adeiladu cyn diwedd y degawd. Gall hynny gyflymu’r broses o ddarparu rhaglen niwclear y DU er mwyn rhoi mwy o sicrwydd ynni a helpu i ddarparu 24GW o drydan niwclear erbyn 2050. Drwy fod y safle niwclear SMR cyntaf yn y DU, gall Trawsfynydd fod yn fodel ar gyfer safleoedd eraill.
Mae angen 4 gwaith yn fwy o drydan glân ar y DU ag sydd gennym ar hyn o bryd i gyrraedd sero net erbyn 2050*, ac mae ôl-troed ynni niwclear ymhlith yr isaf o’r holl ffynonellau masnachol. Bydd niwclear newydd yn Nhrawsfynydd yn cynnig ffynhonnell drydan ddibynadwy, ar gael 24/7, i gyfrannu at y gyfran gynyddol o ynni gwynt a solar sydd ei hangen i gyrraedd system ynni wedi’i dadgarboneiddio’n llwyr.
*Ffynhonnell: Pwyllgor Newid Hinsawdd
Gwnaed ymchwil helaeth gan Barth Menter Eryri i adnabod defnyddiau posib ar gyfer safle Trawsfynydd yn y dyfodol i sicrhau gwaith da, tymor hir i bobl leol yn ne Gwynedd ochr yn ochr â dadgomisiynu’r orsaf drydan bresennol, ac yn y blynyddoedd ar ôl hynny.
O ystyried treftadaeth ac asedau perthnasol y safle, casglodd astudiaethau fod y safle’n cynnig ei hun orau i ddatblygiad niwclear.
Yn dilyn asesu nifer o wahanol opsiynau’n fanwl, cadarnhawyd mai dau brosiect oedd yn cynnig y potensial mwyaf i roi manteision economaidd-gymdeithasol, sef adweithyddion niwclear bach i gynhyrchu ynni carbon isel, ac adweithydd ymchwil meddygol i gynhyrchu radio-isotopau ar gyfer gwaith diagnostig, triniaeth ac ymchwil canser. Mae Cwmni Egino o’r farn mai SMR sy’n cynnig y potensial mwyaf i wireddu buddiannau cymdeithasol-economaidd yn y tymor agos.
Mae Strategaeth Sicrwydd Ynni Prydeinig Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd yn Ebrill 2022, yn cynnwys targed i gynhyrchu 24GW o ynni niwclear newydd erbyn 2050. Mae hefyd yn bwriadu cymeradwyo o leiaf dau brosiect ychwanegol yn ystod y Senedd nesaf, gan gynnwys adweithyddion SMR.
Ategwyd yr uchelgais hon yn ‘Powering Up Britain’ a gyhoeddwyd yn Ebrill 2023. Mae Great British Nuclear (GBN) wedi cael ei sefydlu i gefnogi’r gwaith o ddatblygu niwclear newydd a sicrhau piblinell o brosiectau. Bydd Cwmni Egino yn gweithio gyda GBN wrth barhau i ddatblygu’r cynlluniau ar gyfer Trawsfynydd.
Nod Cwmni Egino yw sicrhau’r budd mwyaf bosibl i gymunedau lleol yn sgil datblygiad SMR. Er mwyn medru cynllunio’r prosiect mewn modd sy’n dod â’r gwerth a’r cynnydd mwyaf o ran ansawdd bywyd, rydym wedi ystyried amrywiol ddangosyddion economaidd-gymdeithasol allweddol. Bydd hyn yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o anghenion lleol ac adnabod heriau a chyfleoedd wrth fynd i’r afael â hwy.
Yn 2021, cyfrannodd diwydiant niwclear sifil y DU £700 miliwn at economi Cymru gan gyflogi 800 o bobl yn uniongyrchol a helpu i gynnal 10,700 o swyddi ar draws y wlad.
Delivering Value: The Economic Impact of the Civil Nuclear Industry, Nuclear Industry Association, 2023
Nodweddir y berthynas rhwng y sector niwclear yng Ngogledd Cymru a Gogledd Lloegr gan glwstwr Arc Niwclear Gogledd-Orllewin Lloegr (NWNA) – partneriaeth o gyrff preifat, cyhoeddus ac academaidd sy’n gweithio ar draws y sector niwclear yng Nghymru a Gogledd-Orllewin Lloegr.
Lleolir Trawsfynydd mewn rhan allweddol o ecosystem technoleg niwclear y NWNA, yn cynnwys ardal ddaearyddol sy’n ymestyn o Cumbria yng Ngogledd-Orllewin Lloegr i Ogledd-Orllewin Cymru. Mae’r galluoedd o fewn yr ardal yn cynnwys gweithgareddau gydol oes y gadwyn gyflenwi niwclear. Maen nhw’n cynnwys gweithgynhyrchu fymryn dros y ffin yn Capenhurst ger Caer, y broses wneuthuro yn Springfields ger Preston, a phrosesau rheoli tanwydd a gwastraff yn Cumbria.
Mae gan ardal Gogledd Cymru a NWNA sylfaen gref o arbenigedd mewn ymchwil a datblygu. Mae Trawsfynydd wedi’i leoli’n dda i gydweithredu â Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor, M-SParc ac AMRC Cymru ym Mrychdyn, yn ogystal â Sefydliad Dalton ym Mhrifysgol Manceinion a’r Labordy Niwclear Genedlaethol. Byddai datblygu Trawsfynydd yn annog mewnfuddsoddiad yn y sector gweithgynhyrchu yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru ac yn y gadwyn gyflenwi niwclear ehangach yn ardal Warrington a Gogledd-Orllewin Lloegr.
Yn ogystal ag adeiladu ar brofiad gweithgareddau cynhyrchu trydan blaenorol a phresennol yn y rhanbarth, byddai’r prosiect SMR yn Nhrawsfynydd yn elwa o weithio gyda NWNA i ddefnyddio galluoedd niwclear ar y ddwy ochr i’r ffin i gefnogi twf economaidd ehangach.