Mae Cwmni Egino yn ehangu ac yn recriwtio ar gyfer tair swydd newydd: Pennaeth Masnachol, Pennaeth Datblygu Prosiect a Gweinyddydd.
Bydd y tair rôl allweddol yma yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth o sicrhau fod Trawsfynydd yn un o’r safleoedd cyntaf yn y DU ar gyfer Adweithydd Modiwlar Bychan (SMR) – gan ddelifro buddion economaidd-gymdeithasol sylweddol yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Rydym yn chwilio am unigolion hynod frwdfrydig i ymuno â’n tîm bychan, ond dynamig i ddatblygu cynlluniau cyffrous ar gyfer Trawsfynydd.
Am fwy o fanylion ac i lawrlwytho’r pecyn gwybodaeth ar gyfer y swyddi, dilynwch y linciau isod: