Prosiect CSH Trawsfynydd yn cymryd cam ymlaen wrth i Gwmni Egino gwblhau datblygiad cynnar

Mae Cwmni Egino, y cwmni y tu ôl i gynlluniau i ddatblygu’r hen orsaf bŵer niwclear yn Nhrawsfynydd, wedi cwblhau cam cyntaf y gwaith datblygu sy’n cadarnhau dichonoldeb lleoli Adweithyddion Modiwlaidd Bach (SMRs) ar y safle.

Mae gwaith datblygu a wnaed gan Gwmni Egino hyd yma wedi sefydlu y gallai tir sy’n eiddo i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA) fod yn addas ar gyfer ystod o dechnolegau SMR gyda’r potensial i gynhyrchu hyd at 1GW o drydan.

Gan adeiladu ar waith Ardal Fenter Eryri a nododd y potensial ar gyfer defnyddio SMR, sefydlwyd Cwmni Egino gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo adfywiad economaidd a chymdeithasol trwy yrru datblygiad yn Nhrawsfynydd yn y dyfodol.

Amcangyfrifir y gallai SMRs yn Nhrawsfynydd greu dros 400 o swyddi hirdymor yn yr ardal leol a thros £600m o GYC ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru a £1.3bn GYC ar gyfer Cymru gyfan dros oes weithredol o 60 mlynedd. Byddai hefyd yn creu miloedd o swyddi ychwanegol yn ystod y cam adeiladu, yn ogystal â thrwy gadwyni cyflenwi Cymru a’r DU.

Fel y cwmni datblygu safle-benodol cyntaf yn y DU ar gyfer SMRs, mae Cwmni Egino wedi gosod ei fryd ar fod y prosiect SMR cyntaf i’w gymeradwyo gan Lywodraeth y DU gyda’r gwaith adeiladu yn dechrau cyn diwedd y degawd.

Dywedodd Alan Raymant, Prif Weithredwr Cwmni Egino: “Yn ogystal â chwrdd â’n hanghenion ynni a’n targedau sero net, mae lleoli SMRs yn Nhrawsfynydd yn cynnig cyfle mewnfuddsoddi enfawr i Gymru. Mae hyn yn cyd-fynd â pholisïau a blaenoriaethau allweddol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

“Credwn mai Trawsfynydd yw’r cyfle cyntaf, mwyaf credadwy i roi hwb i raglen hirdymor o brosiectau SMR yn y DU, a sbarduno twf economaidd sylweddol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae Cwmni Egino yn darparu cyfrwng datblygu i yrru hyn yn ei flaen.

“Mae ein cynlluniau yn fwy datblygedig na safleoedd eraill sy’n addas ar gyfer ynni niwclear ar raddfa fach, ac mae’r gwaith rydym wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf yn rhoi hyder ychwanegol inni y gallwn gyflawni prosiect yn Traws yn llwyddiannus. Rydym eisoes wedi rhoi rhaglen ddatblygu 5 mlynedd ar waith sy’n golygu y gall ein prosiect fod yn barod i’w gymeradwyo erbyn rhan olaf y ddegawd hon – yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth y DU o ran diogelwch ynni.”

Nid yw’r cwmni wedi dewis partner technoleg ar gyfer y prosiect eto, ac mae am weithio gyda Great British Nuclear (GBN), y corff a ffurfiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU sydd â’r dasg o arwain cystadleuaeth dechnoleg SMR y DU.

Ychwanegodd Alan: “Rydym eisoes wedi bod mewn trafodaethau gyda nifer o ddarparwyr technoleg ac mae diddordeb sylweddol mewn defnyddio SMR yn Nhrawsfynydd. Byddwn yn gweithio’n agos gyda GBN dros y misoedd nesaf i gadarnhau’r datrysiad technoleg sydd fwyaf addas ar gyfer Trawsfynydd o fewn y broses ddethol gyffredinol ar gyfer y DU.

“Y maes ffocws allweddol arall i ni nawr yw sicrhau ymrwymiad y Llywodraeth i gam nesaf y prosiect. Yn benodol, mae angen cadarnhad fod Trawsfynydd yn un o’r prosiectau y mae GBN eisiau ei ddatblygu. Bydd hyn yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen arnom i ddatgloi’r cyfle hwn a chael mynediad at gyllid datblygu ychwanegol.”

Dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: “Mae’n newyddion gwych bod Cwmni Egino wedi cwblhau cam cyntaf ei waith yn Nhrawsfynydd a bod cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud tuag at wireddu uchelgais y cwmni i ddechrau lleoli adweithyddion modiwlaidd bach ar y safle erbyn diwedd y ddegawd.

“Fe wnaethom sefydlu Cwmni Egino yn 2021 fel y gallai osod y sylfaen ar gyfer cyflawni buddion economaidd-gymdeithasol sylweddol i Ogledd Orllewin Cymru ac i sicrhau ei fod yn cyflawni hyn, mae’n hanfodol bwysig bod Great British Nuclear nawr yn ymgysylltu’n ystyrlon â Chwmni Egino fel bod Trawsfynydd yn cael ei ddewis yn ffurfiol fel y safle SMR cyntaf yn y DU.”