Hoffech chi fod yn Rheolwr Busnes gyda Chwmni Egino?

Rydym yn chwilio am Reolwr Busnes newydd i ymuno â’n tîm i ofalu am weithrediad cyffredinol y busnes, gan oruchwylio’r gwaith o reoli Cwmni Egino o ddydd i ddydd.

Byddwch yn ymwneud â datblygu a chynnal y systemau, y prosesau a’r seilwaith gweithredol i gyfrannu at lwyddiant y cwmni, yn ogystal â sefydlu perthnasoedd credadwy, proffesiynol a bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Byddwch yn sicrhau bod cyfrifoldebau corfforaethol allweddol yn gweithio’n effeithiol ar ran y Prif Weithredwr a’r Uwch Dîm Arwain gan gynnwys gweithgareddau fel rheolaeth ariannol, gwasanaethau Adnoddau Dynol, cymorth llywodraethu i’r Bwrdd a’i bwyllgorau a sicrhau bod amgylchedd gwaith effeithiol a diogel ar gael i’r holl staff.

I fod yn llwyddiannus bydd gennych, yn ddelfrydol, brofiad o weithio mewn cyd-destun gweithrediadau neu reoli swyddfa. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu, cynllunio a threfnu rhagorol. Byddwch yn frwdfrydig iawn, yn gallu hunangymell ac yn gallu gweithio gyda manylder a materion sy’n sensitif o ran amser.

Oherwydd natur a chyfrifoldebau’r rôl, mae’n ofynnol eich bod yn gallu siarad Cymraeg a’ch bod yn meddu ar sgiliau darllen ac ysgrifennu da yn y Gymraeg. Byddai cymhwyster ym maes Gweinyddiaeth Busnes neu gymhwyster tebyg yn ddymunol.

Cyflog: £30,000 – £35,000 y.f.

Dyddiad cau: 23.08.23

Diddordeb? Cliciwch yma i lawrlwytho’r pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr.

Mae fersiwn Word o’r Ffurflen Monitro Amrywiaeth ar gael i’w lawrlwytho yma.