Gallwch lawrlwytho fersiwn PDF o’r diweddariad yma.
Sefydlwyd Cwmni Egino i adeiladu ar waith Ardal Fenter Eryri drwy edrych ar opsiynau ar gyfer creu swyddi cynaliadwy ac adfywio economaidd-gymdeithasol – gyda’r nod craidd o hwyluso datblygiad ar safle’r orsaf bŵer niwclear flaenorol yn Nhrawsfynydd.
Mae potensial i niwclear newydd yng ngogledd Cymru sbarduno twf cymdeithasol ac economaidd pellgyrhaeddol, yn rhanbarthol ac ar draws Cymru, ac i helpu i fynd i’r afael ag allfudo trwy gadw a denu talent leol yn ôl i’r ardal. Yn ogystal â chynnig manteision economaidd sylweddol, gallai hefyd gyfrannu at greu cymunedau sy’n ffynnu yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol – gan gynnwys cefnogi’r iaith Gymraeg a’n diwylliant.
Fodd bynnag, mae ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol safle Trawsfynydd yn benodol, a llawer o benderfyniadau i’w gwneud ar lefel Llywodraeth y DU a fydd yn effeithio ar y rhagolygon ar gyfer niwclear newydd yng ngogledd Cymru.
Wrth i ni gyrraedd diwedd ein hail flwyddyn weithredol, gobeithiwn fod y diweddariad hwn yn esbonio’r sefyllfa bresennol mewn perthynas â Thrawsfynydd yn ogystal â rhoi rhywfaint o wybodaeth am weithgareddau Cwmni Egino a’r rôl y gallem, o bosibl, ei chwarae yn y dyfodol.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bu ein ffocws i raddau helaeth ar archwilio cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer safle niwclear Trawsfynydd. Fe wnaethom ddatblygu cynnig busnes sy’n dangos y potensial o ddefnyddio niwclear ar raddfa fach yn Nhrawsfynydd, a bod yn un o’r safleoedd SMR cyntaf yn y DU. Cyflwynwyd y ddogfen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Mai 2023.
Ers hynny, rydym wedi gwneud gwaith pellach i edrych yn fanylach ar addasrwydd y safle ar gyfer ystod o dechnolegau. Bydd y gwaith hwn yn arwain at greu pecyn gwybodaeth safle a fydd yn crynhoi ei nodweddion allweddol ac yn galluogi datblygwyr posibl i asesu ei rinweddau.
Rydym yn parhau i gyflwyno’r achos dros leoli prosiect niwclear ar raddfa fach yn Nhrawsfynydd ond gan gydnabod bod y penderfyniad y tu hwnt i’n rheolaeth uniongyrchol.
Ochr yn ochr â gwaith Cwmni Egino yn Nhrawsfynydd, bu nifer o ddatblygiadau ar lefel y DU – yn fwyaf nodedig sefydlu Great British Nuclear (GBN) i yrru rhaglen niwclear newydd y DU.
Y dasg gyntaf i GBN a osodwyd gan Lywodraeth y DU yw penderfynu ar dechnolegau a lleoliad dau brosiect SMR i’w datblygu gyda’r nod o’u cymeradwyo yn y senedd nesaf (h.y. erbyn diwedd y ddegawd). Mae proses ar y gweill gan GBN a disgwylir penderfyniad yn ddiweddarach eleni.
Mae GBN wedi nodi eu bod yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar safleoedd sydd wedi eu dynodi o fewn y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Niwclear sy’n bodoli’n barod, EN-6, ac nid yw hwnnw’n cynnwys Trawsfynydd. O’r herwydd, rhagdybir na fydd ein cynnig i fod yn un o’r safleoedd cyntaf yn y DU ar gyfer SMR yn cael ei wireddu o fewn rhaglen GBN.
Mae Llywodraeth y DU yn cynnal dau ymgynghoriad ar hyn o bryd: 1) i ystyied ffordd newydd o bennu safleoedd niwclear y tu hwnt i 2025; a 2) llwybrau amgen i’r farchnad ar gyfer prosiectau niwclear newydd.
Mae disgwyl i’r ymgynghoriad cyntaf arwain at ddatganiad polisi cenedlaethol newydd ar gyfer niwclear a fydd yn ehangu’r ystod o safleoedd, a gallai hynny fod yn fanteisiol yng nghyswllt Trawsfynydd. Gallai’r ail ymgynghoriad agor cyfleoedd y tu allan i broses GBN ar gyfer datblygu yn Nhrawsfynydd.
Rydym yn llwyr gydnabod y rhwystredigaeth o beidio â chael cynlluniau cadarn ar gyfer datblygu yn Nhrawsfynydd. Er ein bod yn parhau i archwilio amrywiaeth o opsiynau, mae’r ansicrwydd hwn yn debygol o barhau – o leiaf nes i GBN gadarnhau’r safleoedd a’r technolegau y mae’n bwriadu eu mabwysiadu, a bod y polisi lleoli diwygiedig wedi’i gwblhau.
Mae rhagolygon cadarnhaol y bydd buddsoddiad sylweddol mewn niwclear newydd yn y DU dros y degawdau nesaf fel rhan o ymateb Llywodraeth y DU i ddiogelwch ynni a blaenoriaethau sero net. Mae hyn o bosib yn paratoi’r ffordd tuag at gyfle enfawr i ogledd Cymru – gan gynnwys Meirionnydd – elwa o raglen niwclear newydd y DU.
Yn ogystal â’n gwaith safle-benodol yn Nhrawsfynydd, mae Cwmni Egino yn chwarae rhan ganolog wrth hwyluso’r manteision mwyaf y gall prosiectau niwclear y dyfodol eu cynnig i Feirionnydd a rhanbarth ehangach gogledd Cymru – ble bynnag (a phryd bynnag) y gallent gael eu lleoli.
Rydym yn datblygu llawlyfr ar gyfer gweithredu, yn y tymor byr, i gyfrannu at wireddu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ledled y rhanbarth yn sgil mewnfuddsoddiad niwclear. Byddwn yn rhannu ein syniadau gyda rhanddeiliaid dros yr wythnosau nesaf a byddwn yn gwahodd sylwadau ac adborth i’n helpu i’w siapio ymhellach.
Yn ogystal â’n gweithgareddau ymgysylltu parhaus, rydym wedi bod yn cydweithio â Chyngor Gwynedd ar ddau brosiect penodol , gyda chefnogaeth gan gronfa economaidd-gymdeithasol yr NDA.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen at lansio cyfres o fideos byr i gefnogi gweithgareddau fel yr uchod i gynyddu ymwybyddiaeth. Bydd yr adnoddau digidol hyn ar gael i’r cyhoedd a byddant er mwyn cryfhau dealltwriaeth o gysyniadau sy’n gysylltiedig ag ynni niwclear, a, gobeithio, yn ysbrydoli sgyrsiau ehangach am y cyfleoedd i ogledd Cymru.
Mae’r gwaith datblygu safle-benodol a wnaed gan Gwmni Egino hyd yma – ynghyd â’r arbenigedd sefydliadol a’r cysylltiadau yr ydym wedi’u datblygu â rhanddeiliaid – yn gosod seiliau cadarn ar gyfer datblygiadau niwclear newydd yma yng ngogledd Cymru.
Rydym yn parhau i ymgysylltu â’n noddwyr yn Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ar lefel Llywodraeth y DU i sicrhau ymrwymiad a chefnogaeth barhaus i Gwmni Egino fel y gallwn chwarae rôl barhaus wrth gyflawni uchelgais niwclear y DU. Yn hyn o beth, sicrhau manteision economaidd-gymdeithasol i ogledd Cymru yw ein prif flaenoriaeth.
Rydym eisoes wedi sefydlu perthynas dda â thîm GBN, ac mae potensial gwirioneddol i ni weithio gyda’n gilydd er budd pawb. Mae trafodaethau cadarnhaol yn cael eu cynnal rhwng y ddwy Lywodraeth ar lefel gweinidogion ac uwch-swyddogion er mwyn archwilio sut y gallai ein perthynas waith esblygu dros y misoedd/blynyddoedd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn nawdd Cwmni Egino am chwe mis arall (Ebrill-Medi 2024), tra bod y trafodaethau hyn yn mynd rhagddynt.
Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gogledd Cymru, gan gynnwys Trawsfynydd, yn parhau’n gadarn ar y map.
Os hoffech drafod unrhyw fater ymhellach gyda ni, mae croeso i chi gysylltu trwy ebost: elliw.williams@cwmniegino.wales