Yn gynharach y mis hwn, cafodd y tîm yn Cwmni Egino y fraint o ymweld â datblygiad niwclear Hinkley Point C ar arfordir Gwlad yr Haf — prosiect blaenllaw sydd nid yn unig yn ail-lunio tirwedd ynni’r DU ond hefyd yn darparu manteision trawsnewidiol i’r gymuned leol.
Mae Hinkley Point C yn enghraifft wirioneddol o sut y gall datblygiad niwclear newydd fod yn gatalydd ar gyfer twf rhanbarthol. Roedd maint y safle a’r lefel enfawr o weithgarwch yn syfrdanol. Gyda miloedd o bobl yn gweithio ar draws parth adeiladu helaeth, mae’r prosiect yn creu cyflogaeth hirdymor, cyfleoedd cadwyn gyflenwi, a buddsoddiad hanfodol mewn busnesau a seilwaith lleol.
Yn ystod yr ymweliad, cawsom gyfle i siarad yn uniongyrchol â staff a gweithwyr o’r ardal gyfagos. Gwnaeth eu straeon hi’n glir: mae’r prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl — gan ddod â chyfleoedd newydd, datblygiad gyrfa, a sefydlogrwydd economaidd i’r rhanbarth.
I ni yng Nghwmni Egino, roedd yr ymweliad hwn yn fwy na diwrnod ysbrydoledig yn unig — roedd yn atgof pwerus o’r hyn sy’n bosibl. Dychwelon ni’n fwy penderfynol nag erioed i helpu i ddod â lefelau tebyg o weithgarwch, buddsoddiad ac uchelgais i Ogledd Cymru. Mae gweld yr hyn sy’n cael ei gyflawni yn Hinkley Point C yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i hyrwyddo datblygiad niwclear newydd yn Nhrawsfynydd a sicrhau y gall ein cymunedau elwa yn yr un ffordd.