Mae Cwmni Egino wedi penodi Thomas Hurford i ymuno â’r Uwch Dîm Arwain fel Pennaeth Datblygu Prosiect.
Ar secondiad o’r ymgynghoriaeth fyd-eang, Mace, bydd Tom yn arwain y rhaglen o waith datblygu sy’n angenrheidiol i sicrhau penderfyniad i fuddsoddi mewn gorsaf bŵer niwclear newydd yn Nhrawsfynydd erbyn diwedd y ddegawd.
Mae Tom yn Rheolwr Prosiect Peirianneg gyda phrofiad weithio ar ran Cleientiaid, Ymgynghorwyr Proffesiynol a Chontractwyr ym maes datblygu, cael caniatâd ac adeiladu prosiectau seilwaith sylweddol, a hynny yn y sectorau niwclear, nwy a throsglwyddo trydan.
Ar ôl dechrau ei yrfa fel myfyriwr graddedig gyda Horizon Nuclear Power, gan weithio ar ddatblygu a pharatoi’r safle ar gyfer niwclear newydd, treuliodd 5 mlynedd yn y sector Trosglwyddo Trydan yn gweithio ar draws prosiectau yn Ne-orllewin Lloegr a Llundain.
Yn fwyaf diweddar fel Rheolwr Prosiect EPC Arweiniol i Mace, ef oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r atgyfnerthiadau gwerth miliynau o bunnoedd sydd eu hangen ar y Grid Cenedlaethol i hwyluso cysylltiad Gwynt ar y Môr i rwydwaith Gogledd Cymru.
Dywedodd Tom, sy’n wreiddiol o Ynys Môn ac yn dal i fyw ar yr ynys:
“Rwy’n hynod falch o gadarnhau fy secondiad fel Pennaeth Datblygu Prosiect Cwmni Egino. Nid yn unig y mae’n wych dychwelyd i’r diwydiant niwclear, rwy’n falch iawn o fod yn gweithio ar brosiect mor bwysig ar stepen fy nrws yma yng Ngogledd Cymru.
“Mae Trawsfynydd, a’r tir sy’n eiddo i’r NDA o amgylch safle presennol Magnox, yn cynnig cyfle gwych i wireddu uchelgeisiau ynni carbon isel y DU, ac yn bwysicaf oll, gweithio ochr yn ochr â’r gymuned leol a’r gweithlu presennol i sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol.
“Byddaf yn sicr yn defnyddio fy mhrofiad o weithio ar ddatblygiadau niwclear newydd yn y gorffennol, gan hefyd fanteisio ar wersi a gafwyd yn datblygu ac adeiladu prosiectau y tu allan i’r sector i gyfrannu at weledigaeth gyffredinol Cwmni Egino.”
Meddai Alan Raymant, Prif Weithredwr Cwmni Egino: “Mae Tom yn dod â chyfoeth o brofiad o brosiectau seilwaith mawr gydag ef, yn ogystal â dealltwriaeth drylwyr o’r ardal.
“Mae Tom yn ymuno ar adeg gyffrous iawn i ddatblygiadau niwclear newydd, ac mae’r cyfle economaidd-gymdeithasol i Ogledd Cymru yn enfawr. Mae’n bleser ei groesawu i’r tîm, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i ddatblygu ymhellach ein cynigion ar gyfer Trawsfynydd a’r rhanbarth yn ehangach.”