Mae Cwmni Egino, y cwmni y tu ôl i gynlluniau i ddod ag Adweithyddion Modiwlaidd Bach (SMRs) i Drawsfynydd, wedi croesawu cyhoeddiad y Gyllideb heddiw sy’n cadarnhau lansiad Great British Nuclear (GBN).
Dywedodd Alan Raymant, Prif Weithredwr Cwmni Egino:
“Rydym yn croesawu’n fawr y cadarnhad o gyllid ar gyfer GBN i yrru rhaglen niwclear newydd yn ei blaen yn y DU.
“Mae yna gefnogaeth bolisi gref ar gyfer niwclear newydd i gefnogi’r newid i sero net, cryfhau diogelwch ynni, a hybu’r economi. Yr hyn sydd ei angen nawr yw llif o brosiectau i gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth y DU ar gyfer niwclear newydd.
“Mae ffurfio RhBN yn gam mawr tuag at gyflawni dyheadau polisi, trwy ddarparu mwy o eglurder a sicrwydd ynghylch ble, pryd a sut y bydd prosiectau’n cael eu defnyddio.”
Cwmni Egino yw’r cwmni datblygu safle-benodol cyntaf yn y DU ar gyfer SMRs ac mae’n llunio cynigion manwl i’w defnyddio ar safle’r hen orsaf bŵer niwclear yn Nhrawsfynydd.
Nid yw’r cwmni wedi dewis partner technoleg ar gyfer y prosiect eto, a dywed y bydd yn gweithio gyda GBN i ystyried opsiynau.
Ychwanegodd Alan: “Credwn mai Trawsfynydd yw’r cyfle cyntaf, mwyaf credadwy i GBN roi hwb i raglen hirdymor o brosiectau SMR yn y DU, a sbarduno twf economaidd sylweddol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
“Mae ein cynlluniau yn fwy datblygedig na safleoedd eraill sy’n addas ar gyfer ynni niwclear ar raddfa fach, ac rydym yn hyderus y gall ein prosiect fod yn barod i’w gymeradwyo erbyn diwedd y degawd hwn – yn unol â blaenoriaethau diogelwch ynni Llywodraeth y DU.
“Mae Cwmni Egino yn darparu cyfrwng datblygu i symud y prosiect yn ei flaen, ac rydym yn barod i weithio gyda GBN wrth iddo symud ymlaen gyda dewis lleoli a thechnoleg.”