Er mwyn datblygu’r prosiect SMR yn Nhrawsfynydd ymhellach, bydd angen ymrwymiad gadarn y Llywodraeth a byddwn yn parhau i wthio’r achos o blaid datblygu Trawsfynydd fel y safle niwclear bach cyntaf. Bydd cefnogaeth a buddsoddiad gan y Llywodraeth yn helpu i ddenu a datgloi buddsoddiad sylweddol yn yr economi gan y sector preifat. Rydym mewn sefyllfa gref i weithio gyda Llywodraethau Cymru a’r DU, a Great British Nuclear, i sbarduno rhaglen SMR y DU a gweithredu’r polisïau ar gyflawni sero net a sicrwydd ynni.
Yn allweddol i sefydlu Cwmni Egino oedd ffocws cryf ar greu cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn creu ‘Cynllun Gwerth Cymdeithasol’ i ddisgrifio sut y gallai’r datblygiadau arfaethedig gyfrannu at wella ansawdd bywyd pobl mewn cymunedau cyfagos ac ar draws y rhanbarth yn ehangach. Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau wrth i’r cynigion esblygu gan hyrwyddo eu cynnwys mewn adnabod a chynllunio prosiectau pwysig i ddod â buddiannau parhaol i’r ardal.
Dangosodd y gwaith hyd yma fod Trawsfynydd yn addas ar gyfer amryw o wahanol dechnolegau niwclear bach, gyda llawer o ddiddordeb yn y safle. Rydym mewn trafodaethau ffurfiol â nifer o ddarparwyr technoleg i ystyried opsiynau. Gan weithio gyda Great British Nuclear, byddwn yn dewis y dechnoleg sydd fwyaf addas i’r safle, y gellir ei lleoli mor agos â phosib at wasanaethau, sy’n cael yr effaith weledol leiaf, yn cynnig y cyfle economaidd-gymdeithasol gorau i gyflenwyr lleol a rhanbarthol ac sy’n cynnig y potensial mwyaf o ran ychwanegu gwerth cymdeithasol.
Bydd angen nifer o astudiaethau i siapio dyluniad manwl y prosiect SMR a deall ei effaith ar yr ardal leol, gan gynnwys astudiaethau daearegol ac arolygon amgylcheddol. Mae’r rhain yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect a lleihau unrhyw effeithiau negyddol. Bydd astudiaethau arbenigol yn ein helpu i adnabod unrhyw gyfyngiadau, gwelliannau posib a mesurau lliniaru angenrheidiol, ac i wneud penderfyniadau pwysig fel ble’n union i leoli’r adweithydd.
Er mwyn gwireddu potensial economaidd-gymdeithasol llawn y prosiect, mae angen sicrhau bod gan y gweithlu a busnesau lleol y sgiliau, arbenigedd a’r gallu i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw i’w rhan. Byddwn yn gweithio gyda darparwyr addysg, sgiliau a hyfforddiant lleol a rhanbarthol, a’r gadwyn gyflenwi, i ddatblygu cynlluniau cadarn a sicrhau buddsoddiad.