Sefydlwyd Cwmni Egino gan Lywodraeth Cymru yn 2021 i ddelifro Rhaglen Datblygu Safle Trawsfynydd ac adeiladu ar waith Parth Menter Eryri. Yn unol â’r Rhaglen Datblygu Safle, pwrpas craidd y cwmni yw creu swyddi cynaliadwy a hyrwyddo adfywiad economaidd a chymdeithasol drwy hybu datblygiad safle’r orsaf niwclear yn Nhrawsfynydd.
Ein gweledigaeth yw mai Trawsfynydd fydd y safle ar gyfer adeiladu’r Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR) cyntaf yn y DU; bydd Gogledd Cymru’n cael ei hadnabod fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ynni carbon isel; a bydd ansawdd bywyd pobl yn well.
Egino
}
Y gair Cymraeg am egin neu flagur yn tyfu yw ‘egino’. Mae’n cyfleu rôl Cwmni Egino gyda datblygu’r cysyniad o ddatblygiad niwclear newydd yn Nhrawsfynydd a’i droi’n brosiect ymarferol a realistig i’w ddarparu. Rhaid gwneud llawer iawn o waith cyn y gall unrhyw ddatblygu gweledol ddigwydd; yn union fel y mae hadyn yn cael ei blannu yn y ddaear, mae angen ei feithrin a chreu’r amodau iawn cyn gweld yr egin yn tyfu.
Mae Adweithyddion Modiwlaidd Bach (SMR) yn fersiwn lai o adweithyddion niwclear traddodiadol ac yn gallu gweithio’n hyblyg ar safleoedd llai – fel Trawsfynydd. Nod y DU yw datblygu adweithyddion SMR y gellir eu defnyddio’n ddiymdroi i gyflenwi gwres a phŵer.
Gallai adweithyddion SMR fod yn rhatach a darparu trydan yn gynt nag adweithyddion mawr confensiynol. Wedi eu gweithgynhyrchu mewn ffatri, cludir cydrannau (modiwlau) cyfan i’w cydosod yn derfynol ar y safle. Bydd adweithyddion SMR yn darparu trydan glân, hyblyg a sicr, a hefyd yn creu swyddi da, twf ac adfywiad rhanbarthol a chenedlaethol, cyfleoedd allforio a chanolfan sgiliau ac ymchwil a datblygu newydd.
Mae nifer o wahanol fathau o adweithyddion SMR yn cael eu dylunio ar hyn o bryd, gyda’r gwahanol adweithyddion yn cynhyrchu rhwng tua 20MW a 470MW o drydan yr un. Gall rhai o’r dyluniadau gael eu haddasu i ddarparu gwres hefyd. O ran allbwn maen nhw’n gymharol i’r ddau adweithydd a oedd yn yr orsaf wreiddiol yn Nhrawsfynydd, ond fel arfer yn llai.
Rydym yn datblygu’r prosiect mewn tri cham, gan arwain at gael Penderfyniad Buddsoddi Terfynol (FID) a chaniatâd i’w adeiladu erbyn diwedd Cam 3:
Mae cam cyntaf y gwaith wedi cadarnhau bod y prosiect yn hyfyw ac mae Cwmni Egino bellach ar gychwyn yr ail gam, sy’n cynnwys gwaith datblygu prosiect mwy manwl.
Mae datblygu prosiect niwclear newydd yn gymhleth ac yn cymryd amser. Mae llawer iawn o elfennau sydd angen iddynt fod yn eu lle cyn gallu codi gorsaf niwclear a dechrau cynhyrchu trydan. Mae Cwmni Egino’n gweithio i ddod â’r holl wahanol elfennau hyn at ei gilydd i ddelifro prosiect SMR llwyddiannus yn Nhrawsfynydd.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraethau Cymru a’r DU, rhanddeiliaid rhanbarthol, partneriaid yn y diwydiant a chymunedau lleol i sicrhau bod y prosiect yn cael ei ddylunio a’i ddelifro mewn ffordd sy’n creu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol am ddegawdau i ddod.