Let's Learn about Nuclear Videoes

‘DYSGU AM NIWCLEAR’: LANSIO CYFRES O FIDEOS NEWYDD

Rydan ni’n falch iawn o lansio cyfres o fideos sy’n cwmpasu gwahanol agweddau ar bŵer niwclear.

Mae’r prosiect ar y cyd rhwng Cwmni Egino ac M-SParc, gyda chyllid gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, wedi arwain at greu chwe fideo byr a gynhyrchwyd gan Animated Technologies o Ynys Môn. Mae’r fideos yma’n rhoi trosolwg bach o bynciau gan gynnwys:

  • Beth ydi niwclear?
  • Y gwahaniaeth rhwng adweithyddion mawr a bach
  • Sut ydan ni’n elwa?
  • Cymysgedd egni
  • Gwastraff niwclear
  • Ymbelydredd

Y gobaith ydi y bydd y fideos hyn yn cefnogi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o sut mae pŵer niwclear yn gweithio a pham ei fod yn rhan hanfodol o’r gymysgedd ynni glân, ochr yn ochr â ffynonellau adnewyddadwy, a’r cyfleoedd economaidd-gymdeithasol sylweddol y mae’n eu cynnig.

Maen nhw’n rhad ac am ddim ac ar gael i unrhyw un eu defnyddio i helpu i ysgogi sgwrs wybodus a phwysig ynghylch niwclear yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, yr angen am drydan carbon isel i ateb y galw yn y dyfodol, a’r potensial ar gyfer buddion parhaol i gymunedau.

Felly, p’un a ydych chi’n athro, rhiant, athro neu’n chwilfrydig ac eisiau dysgu mwy, dylai’r animeiddiadau hyn roi cyflwyniad cyflym a syml i chi i niwclear.

Mae’r fideos ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho yma:

 

Mae croeso i chi gynnwys y fideos ar eich gwefan, yn eich pecynnau adnoddau digidol neu rannu’r ddolen yn eang.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau!